Pererindod Cyfeillion Uniongred Iona i Dyddewi, 2007.
Braf o beth yw pererindota: gadael heibio gofalon ein bywyd beunyddiol, a mentro mewn ffydd hyd y ffordd tua’r mannau cysegredig. Y mae troedio’r llwybrau, cyffwrdd â’r meini, ac addoli gerbron yr allorau’n adfywio enaid dyn, ie dros weddill ei oes. Gwyddai ein cyndadau hynny, a dyna a’u symbylodd i fentro’u bywydau ar dir a môr wrth gyrchu Enlli a Santiago, Rhufain a Gwlad yr Iesu.
Tipyn llai o antur fu cyrchu Tyddewi eleni, ond rhyfygwn ddweud fod y wefr llawn cymaint. Daeth tua deg ar hugain ohonom ynghyd, credinwyr Uniongred o Gymru a Lloegr, Yr Alban a’r Almaen, Rwsia a’r America ac Awstralia, oll yn un ein hamcan a’n hawydd, ac yn fawr ein llawenydd. Do, cawsom lety da yn Ffald y Brenin, tywydd da gydol yr wythnos, a phob cyfle i weld gwlad Dyfed ar ei gorau: ond gwell na’r bendithion hyn, hyd yn oed, oedd cyfle i fwynhau cwmni diddan cyd-bererinion, ac yfed o ffynnon doethineb ein harweinydd, yr Archesgob Calistos. Bu’n fraint mawr.
Nid ydym ninnau’r Cymry hanner mor ymwybodol ag a weddai o hanes ac arwyddocad mannau cysegredig ein gwlad. Ynteu ni wyddom amdanynt, neu yr ydym mor gyfarwydd â hwy fel na sylwn arnynt, bellach. Da calon felly fu ymweld â hwy o’r newydd, a thrwy hynny ailgysylltu â’r gorffennol a’r tragwyddol. Dyma’n hetifeddiaeth, mynegbyst y sylwedd ysbrydol a wewyd, gyda’r Gymraeg, yn ddwy edau ddisglair barhaus ym mrethyn ein hunaniaeth oesol, gan gadw’r cyfanwaith yn un.
Da hefyd oedd medru dwyn y trysor hwn i olwg eraill, iddynt weld a deall na nosodd arnom yn llwyr wedi’r Hollti ym 1054, y Diwygiad Protestanaidd, a materoliaeth yr oes hon. Yr oedd yn eu hatynnu, yn ennyn eu diddordeb a’u brwdfrydedd, yn diwallu: ac wedi i ninnau’r Cymry Uniongred edrych cymaint tua’r Dwyrain am ein hysbrydoliaeth, hyfryd oedd medru cynnig rhywfaint o’n cynhysgaeth ni yn ysbrydoliaeth i eraill.
Y Tir Sanctaidd y flwyddyn nesaf, Duw’n caniatáu: dyna uchafbwynt!
Er mwyn dychwelyd at y dudalen flaenorol, cliciwch ar y botwm isod, os gwelwch yn dda.